Cart 0
 
llanddwyn-9.jpg

Dwi’n Caru ‘ngwaith

Un o fy hoff betha i am ‘ngwaith ydi’r ffaith fod pobl yn hongian eu lluniau ar eu waliau yn eu tai. Dwi’n teimlo’n ffodus iawn i allu creu darnau o gelf fydd yn cael eu trysori am flynyddoedd i ddod. Dwi’n dallt yn iawn fod lluniau proffesiynol yn fuddsoddiad a dyna pam dwi’n rhoi gymaint o ymdrech mewn i gael bob dim yn berffaith ar gyfer bob un cleient.

Dwi’n caru’r môr

Ella bo chi wedi sylwi hyn, ond dwi di mopio’n llwyr efo’r môr. Ges i’m magu yn Sir Fôn, yn agos at y traethau mwyaf godidog yng Nghymru (gwir bob gair!) - tywod euraidd a môr gwyrddlas, be gei di’n well? Lan y môr ydi ‘adra’ fi, does 'na nunlle tebyg.

Dwi’n caru ‘nheulu

Cyn bob dim arall, dwi’n fam a dwi’n wraig. Un o’r prif resymau i fi ddechrau ‘musnes ffotograffiaeth oedd i drio stopio amser. Mae’n swnio’n hurt, dydi?! Un o fy hoff ddywediadau i ydi “Benthyg am amser byr yw popeth a geir yn y byd hwn”. A dyna ydi ffotograffiaeth i fi - ryw fath o ffordd o stopio amser, neu o leiaf ffordd fach o allu mynd yn ôl mewn amser i foment sydd wedi hen fynd. Ffordd o ‘fenthyg’ y dyddiau yma am amser hirach ac i’w rhoi nhw ar gof a chadw.