Cart 0
 
Cardiff Photographer.jpg

Ffotograffydd | Bwmp, babis, bywyd, busnes

Amdana i

Haia! Clare ‘dwi - ffotograffydd sy’n gweithio ar draws Cymru er mwyn rhoi atgofion eich teulu chi ar gof a chadw.

Dwi’n defnyddio goleuni naturiol er mwyn creu lluniau o fabis, plantos a theulouedd - lluniau fydd yn cael eu trysori a’u pasio lawr drwy’r cenhedlaethau. Fy hoff lleoliadau ydi’r traethau anhygoel sydd gennyn ni yn Nghymru, ynghyd â’ch ty chi’ch hun!


Ffotograffydd Sir Fôn | Ffotograffydd Bwmp

north wales maternity photographer

Dwi erioed wedi cwrdd ag unrhywun sydd wedi dyfaru cael shwt bwmp! Mae dy gorff di’n gwneud rywbeth anhygoel - gad i ni greu cofnod o hyn i gofio’r amser byr ac arbennig yma. Mae gen i hoff leoliadau ar hyd Gogledd Cymru, yn cynnwys Sir Fôn a Gwynedd, gyda prisiau yn dechrau o £200.


Ffotograffydd Sir Fôn | ffotograffydd babis

north wales newborn photographer

Ydach chi’n sbïo am ffotograffydd babis sydd efo steil modern a ffres? Mae fy sesiynau babis bitw bach yn cael eu cynnal yn eich ty chi’ch hunan, sy’n golygu digon o amser i fwydo, newid clytiau, a chael llond trol o cydls er mwyn cadw’ch babi bach yn hapus a bodlon. Dydw i ddim yn defnyddio props nag yn ‘posio’ babis. Y peth mwyaf pwysig i mi ydi ffocysu ar eich babi newydd fel aelod o’r teulu cyfan, ac ar fanylion bitw bach eich babi newydd. Dwi’n gweithio ar hyd Gogledd Cymru yn cynnwys Sir Fôn a Gwynedd, gyda prisiau ar gyfer sesiwn babi yn dechrau o £499.


Ffotograffydd Sir Fôn | Ffotograffydd Teulu

north wales family photographer

Dwi wrth fy modd efo lan y môr a chefn gwlad, ac mae ‘ngleients i wrth eu bodd hefyd! Mae bywyd yn gwibio heibio, ond mae shwts teulu yn ffordd lyfli o dreulio amser efo’ch gilydd tra ‘mod i’n dal yr emosiwn a’r perthynas rhyngddoch chi gyd. Mae’n gyfle hefyd i blant fod yn blant - sblashio yn y tonnau, chwarae gemau gyda’u teulu, casglu cerrig bach, a teimlo’r tywod rhwng bodiau’u traed.

Mae fy shwts teulu yn cael eu cynnal ar draethau Sir Fôn, efo teuluoedd o’r ynyd ei hun, Gwynedd a Phenllyn yn heidio i’r môr i gael hwyl o flaen y camera. Mae’n werth bwcio cwpl o fisoedd o flaen llaw, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am shwt o fewn y gwyliau ysgol, ac mae prisiau shwt teulu yn cychwyn o £499.


Ffotograffydd Sir Fôn | Ffotograffydd Busnes

personal branding session north wales

Dwi’n falch iawn o allu cynnig ffotograffiaeth busnes modern ar hyd a lled Gogledd Cymru, yn cynnwys Sir Fôn, Gwynedd a Chonwy. Mae prisiau ffotograffiaeth busnes yn cychwyn o £149, felly cliciwch y botwm isod i ddarganfod sut allen ni weithio gyda’n gilydd i greu portfolio o luniau fydd yn dyrchafu eich busnes chi.

Ffotograffydd | Bwmp, Babis, Bywyd, Busnes

Untitled design.png