Ffotograffydd Babis | newborn photographer North Wales

Dwi’n cynnig ffotograffiaeth naturial i fabis bitw bach a’u teuluoedd ar hyd Gogledd Cymru a Sir Gaer. Mae sesiynau babi yn cael eu cynnal yn eich cartref chi’ch hunain, sy’n golygu fod digon o amser i fwydo, newid clytiau, a chael llond trol o cydls er mwyn cadw’ch babi bach yn hapus a bodlon. Mae sesiwn babi yn cymryd rhwng 2 a 3 awr, a dydw i ddim yn defnyddio props nag yn ‘posio’ babis. Y peth mwyaf pwysig i mi ydi ffocysu ar eich babi fel aelod o’r teulu cyfan, ac ar fanylion bitw bach eich babi newydd.

Text in Welsh saying 'prisiau'n cychwyn o' with a price of £499 and a minimal decorative branch below.

er mwyn bwcio’ch sesiwn babi…

Fel arfer, mae ‘nghleientiaid yn bwcio’u sesiwn babi ar ôl y sgan 20 wythnos. Mi wnawn ni ddefnyddio’ch ‘due date’ fel y dyddiad sy’n mynd mewn i ‘nyddiadur, ac unwaith i’r babi gael ei geni, fe allen ni bennu’r dyddiad terfynol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Cysylltwch drwy’r ffurflen yma am fwy o wybodaeth am brisiau neu ddyddiadau rhydd. Fedrai’m aros i glywed gennych chi!

Our system has encountered an error. This exception has been automatically logged and reported. 8CNFY9CTMLNH885R2NEY