Cart 0
 
Commerical Photography.jpg

Ffotograffydd Busnes | Business Photographer North Wales

Mae’ch busnes chi yn hollol unigryw - ac mae’n haeddu ffotograffiaeth unigryw i ddangos ei botensial lawn i’r byd. Cysylltwch heddiw er mwyn trafod sut allen ni weithio gyda’n gilydd i greu lluniau proffesiynol sy’n fodern ac yn ffres. Lluniau fydd yn rhoi’ch cwmni chi ar flaen y gad. Wrth gynnwys lluniau proffesiynol ar eich gwefan a’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol (waw ma hyna’n llond ceg!) mi fydd eich cwsmeriaid chi yn teimlo fel eu bod nhw’n nabod chi, eich brand, eich cwmni a’ch gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf.

Rwy’n gweithio gyda busnesau ar hyd Gogledd Cymru. Rwy’n hoff o ddefnyddio lleoliadau awyr agored ynghyd â’ch gweithle, er mwyn creu lluniau sy’n cyfleu stori unigryw eich busnes chi.

 
 
 
 

er mwyn bwcio’ch sesiwn busnes…

Yn debyg iawn i sesiwn teulu, mae’ch sesiwn busnes chi yn hollol unigryw i chi a’ch busnes. Cysylltwch heddiw er mwyn i ni drafod sut allen ni weithio gyda’n gilydd i adfywio a dyrchafu’ch brand chi. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Defnyddiwch y ffurflen isod i gael fwy o wybodaeth am brisiau neu ddyddiadau rhydd. Fedrai’m aros i glywed gennych chi!

harriet-1-2.jpg