Helô a chroeso! Dwi’n falch bod chi wedi ffeindio fi - dwi methu aros i greu lluniau hydrefol hyfryd i chi a’ch teulu. Ella’ch bod chi eisioes yn fy nilyn i ar Instagram neu ella’ch bod chi wedi darllen fy nhudalen amdana i - ond dwi’n swir bo’ chi erbyn hyn yn gwybod ‘mod i wrth fy modd yn treulio amser ym myd natur.

I ddathlu byd natur, dwi wedi penderfynu cynnig Sesiynau’r Hydref, sef ‘mini shoots’ yng Nghaerdydd a’r Bontfaen. Er eich bod chi dal yn cael yr holl fanteision o shwt llawn, mae’r prîs yn îs (look out talwrn y beirdd) gan fy mod i wedi dewis yr amseroedd, y dyddiadau, a’r lleoliadau o flaen llaw.

Er mwyn gweld pa sesiynau sydd ar gael, sgroliwch i lawr y dudalen hon.

Fedrai’m aros i gwrdd â chi!

Sesiynau’r Hydref

Autumn Mini Shoot | Cowbridge | 18.10.25
£249.00
Autumn Mini Shoot | Cardiff | 19.10.25
£249.00
  • Mae Sesiynau’r Hydref yn berffaith ar gyfer cael ypdêt bach ar ei lluniau teulu. Mae’r pris yn cynnwys 3 llun digidol, yn ogystal a prints cyfatebol, felly maen nhw’n ffordd gwych o rannu’r lluniau yn eich cartref eich hun yn ogystal â gyda’ch teulu. Er fod y sesiwn yn un byr - 20 munud o hyd - mi fydd dewis o 10 llun yn eich oriel terfynnol. £249 ydi cost y sesiwn, sy’n cael ei dalu pan ‘da chi’n bwcio. Mae’r pris yn cynnwys -

    *Welcome Guide i helpu chi baratoi at y shwt;

    *y shwt ei hun;

    *3 llun digidol;

    *3 print cyfatebol maint 6×4.

    Os da chi just methu dewis eich 3 hoff lun ar ôl gweld nhw yn eich oriel, mae croeso mawr i chi wneud ‘upgrade’ am £99 ychwanegol. Mae’r upgrade yn cynnwys bob llun digidol yn eich oriel, yn ogystal â prints cyfatebol hyd at maint a4.

  • Eleni, dwi’n cynnig Sesiynau’r Hydref yng Nghaerdydd ac yn y Bontfaen. Maen nhw’n digwydd ar Ddydd Sadwrn y 18fed o Hydref (Bontfaen) & Dydd Sul y 19eg o Hydref (Caerdydd). Mae modd bwcio unrhyw sesiwn drwy glicio ar y dyddiad a’r amser sy’n siwtio chi o’r rhestr ym mhellach i fyny’r dudalen hon. Mi fydd manylion llawn y lleoliadau yn cael eu rhannu ar ôl bwcio - dwi’n gaddo fod nhw’n lefydd hyfryd!

  • Mae’r sesiynau yma’n addas ar gyfer hyd at 5 aelod o’r un teulu (yn cynnwys anifeiliaid anwes). Gan fod y sesiynau yn gwta - dim ond 20 munud yr un - maen nhw’n addas ar gyfer plantos sydd eisioes yn hyderus o flaen y camera. Tydyn nhw ddim yn addas ar gyfer babis sy’n ‘fengach na 4 mis oherwydd cyfyngiadau amser. Maen nhw’n berffaith ar gyfer shwt bwmp, neu hyd yn oed er mwyn dathlu cael ci newydd! Mae croeso i chi gysylltu cyn bwcio os nad ydach chi’n siwr fod Sesiwn yr Hydref yn mynd i siwtio’ch teulu chi.

  • Glaw? Yng Nghymru?! Na! Ond, just rhag ofn, dwi’n cadw llygad barcud ar app y Met Office yn ystod yr wythnos cyn y shwt. Os ydi hi’n gaddo glaw neu dywydd garw, mi fyddai mewn cysylltiad gyda phawb er mwyn ail-drefnu’r sesiwn at y wicend canlynol, felly plîs cadwch y dyddiadau yna’n rhydd hefyd, jyst rhag ofn!

cysylltwch

~

cysylltwch ~

Os oes gennych chi gwestiynau am Sesiynau’r Hydref sydd heb eu hateb uchod, mae croeso mawr i chi gysylltu drwy’r ffurflen yma.